Yn bresennol
|
Categori
|
Enwau
|
|
Aelodau’r
Pwyllgor:
|
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)
Lesley Griffiths AS
Siân Gwenllian AS
Darren Millar AS
|
|
Staff y
Pwyllgor:
|
Graeme Francis (Clerc)
Yan Thomas (Dirprwy Glerc)
|
|
Eraill yn
bresennol
|
Jane Dodds AS
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd
Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd
Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a
Deddfwriaeth,
Siân Wilkins, Pennaeth
Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol
Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a
Phwyllgorau
Helen Carey, Llywodraeth Cymru
|
<AI1>
1
Cyflwyniad,
ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y
Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod
</AI1>
<AI2>
2
Cofnodion y
cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
</AI2>
<AI3>
3
Trefn
Busnes
</AI3>
<AI4>
3.1
Busnes yr wythnos
hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a
ganlyn:
- Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ffyniant
Cyffredin a Ffyniant Bro (30 munud) Ail-drefnwyd i eitem
6
-
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol: Arferion Mabwysiadu Hanesyddol (30
munud)
- Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru)
2023 (
15 munud)
- Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
- Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.05pm.
Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi cytuno i gais gan y BBC
i ffilmio yn yr oriel gyhoeddus yn ystod y datganiad ar Arferion
Mabwysiadu Hanesyddol.
Dydd Mercher
- Caiff y Cyfnod
Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
- Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.
</AI4>
<AI5>
3.2
Amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a
ganlyn:
Dydd Mawrth 2
Mai 2023
·
Datganiad gan y Cwnsler
Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Coroni Ei Fawrhydi Brenin
Charles III (30 munud)
·
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth (30
munud)
·
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud) – Gohiriwyd tan 23 Mai
Dydd Mawrth 9
Mai 2023
·
Datganiad gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30
munud)
</AI5>
<AI6>
3.3
Amserlen busnes y
Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr
ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos
nesaf:
Dydd Mercher 17 Mai 2023 –
- Dadl ar
Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
- Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Digartrefedd
(60 munud)
- Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
- Dadl fer:
Peter Fox (Mynwy) (30 munud)
</AI6>
<AI7>
4
Deddfwriaeth
</AI7>
<AI8>
4.1
Diweddariad ar
Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd
i wneud yr hyn a ganlyn:
- ymestyn y
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2)
tan 6 Gorffennaf 2023;
- cyfeirio'r
Memorandwm ar y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon a osodwyd ar 31 Mawrth
at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu gyda dyddiad cau ar gyfer
cyflwyno adroddiad ar 15 Mehefin 2023;
- cyfeirio'r
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig a
osodwyd ar 11 Ebrill at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai,
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Cyllid
a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ar
gyfer craffu, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 22
Mehefin 2023;
- cyfeirio'r
Memorandwm ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn
Gyhoeddus a osodwyd ar 17 Ebrill at y Pwyllgor Cydraddoldeb a
Chyfiawnder Cymdeithasol, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu, gyda dyddiad cau
ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 18 Mai;
- cyfeirio ymlaen
llaw’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm
Rhif 3) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio at y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Pwyllgor yr Economi, Masnach a
Materion Gwledig, y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu,
gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 22 Mai.
</AI8>
<AI9>
4.2
Gohebiaeth gan
Gadeirydd Dros Dro Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
ynghylch y Memorandwm Atodol (Rhif 2) ar y Bil Troseddau Economaidd
a Thryloywder Corfforaethol
Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr
</AI9>
<AI10>
5
Unrhyw faterion
eraill
Trefniadau Cyflwyno
Atgoffodd y
Llywydd y Rheolwyr Busnes am y newidiadau sy’n ofynnol
i’r trefniadau cyflwyno dros y pythefnos nesaf oherwydd
gŵyl y banc ar 1 Mai ac 8 Mai.
Yn ogystal
â’r newidiadau hynny, yn sgil y streic sydd
wedi’i chynllunio ar gyfer dydd Gwener 28 Ebrill, bydd y
balot ar gyfer cwestiynau llafar i'r Prif Weinidog, y Gweinidog
Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Materion Gwledig,
Gogledd Cymru a’r Trefnydd ar 9 a 10 Mai bellach yn cael ei
gynnal ddydd Iau 27 Ebrill. Bydd cynigion y Llywodraeth ar gyfer
dydd Mawrth 9 Mai hefyd yn cael eu cyflwyno erbyn dydd Iau 27
Ebrill.
</AI10>
<TRAILER_SECTION>
</TRAILER_SECTION>
<LAYOUT_SECTION>
1.
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
2.
FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
<HEADING_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
</HEADING_LAYOUT_SECTION>
<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_SUMMARY
</COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.1
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.2
FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>